Adfywio Trefi Cymru: A allai Gorchmynion Prynu Gorfodol helpu'r broses hon?

Cyhoeddwyd 06/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/06/2019

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog cynghorau lleol i ddefnyddio pwerau prynu gorfodol er mwyn adfywio trefi.


 
Mae'r Pwyllgor wedi amlinellu sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol (GPG) mewn ffyrdd cadarnhaol i wella cymunedau, drwy brynu adeiladau adfeiliedig neu dir diffaith.

Yn aml, mae awdurdodau lleol yn troi at ddefnyddio GPG fel y dewis olaf un. Ym marn y Pwyllgor, nid ar chwarae bach y dylid gorfodi rhywun i werthu ei dir. Fodd bynnag, mae rhesymau dilys dros wneud hynny ac fe ddylai cynghorau deimlo'n hyderus wrth ddewis dilyn y trywydd yma pan fo'r angen. 

Dysgodd y Pwyllgor fod modd i gynghorau ddefnyddio'r pwerau yma yn ystod eu gwaith i adfywio trefi er mwyn dod ag adeiladau adfeiliedig a thir diffaith yn ôl i ddefnydd. Fe all cynghorau ddewis defnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol fel ffordd o chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag datblygu seilwaith mewn trefi ledled Cymru.

Yn aml, mae cynghorau sy'n ceisio annog pobl i ddefnyddio teithio llesol yn ei chael hi'n anodd creu llwybrau cerdded a beicio deniadol am fod rhaid iddynt ddargyfeirio'r llwybrau er mwyn osgoi tir preifat. Drwy ddewis defnyddio'r broses prynu gorfodol, mae modd helpu awdurdodau lleol i ddatblygu rhagor o lwybrau teithio llesol di-dor.

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu arweiniad a chefnogaeth glir ynghylch sut i ddefnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol, a'i bod yn rhoi arweiniad clir i awdurdodau lleol ynghylch y manteision. Os oes anghydfod, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru annog y ddwy ochr i ddatrys yr anghydfod â'i gilydd, gan osgoi mynd drwy'r system gyfreithiol a allai fod yn ddrud. 

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:

"Rydym i gyd eisiau gweld ein trefi yn ffynnu ac mae pawb eisiau gweld pobl yn dewis beicio a cherdded lle bynnag y bo modd. Pan mae Gorchmynion Prynu Gorfodol yn cael eu defnyddio'n gywir, maen nhw'n gallu cael effaith sylweddol ar waith cynghorau i gyflawni'r uchelgais yma. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, yn aml mae cynghorau yn dewis peidio dilyn y broses am eu bod nhw'n poeni dechrau brwydr gyfreithiol hirfaith a chostus.

"Mae ein Pwyllgor wedi edrych ar y broses o ddefnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol, ac rydym o'r farn y gall Llywodraeth Cymru wneud y broses yn haws ac yn fwy effeithlon, gan helpu awdurdodau lleol i ddefnyddio'r pwerau er budd cymunedau ledled Cymru.
 
"Mae'r pwerau hyn yn arf pwysig i gynghorau, ac rydym o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i herio'r teimladau negyddol am y broses o ddefnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol. Dylai'r Llywodraeth ddarparu cyngor a chefnogaeth i gynghorau fel eu bod nhw'n teimlo'n hyderus wrth ddewis dilyn y trywydd hwn."