Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth ar ffyrdd Cymru wedi'i lansio gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'n gofyn i bobl anfon delweddau fel rhan o'i ymchwiliad i gyflwr ffyrdd yng Nghymru.
Bydd y cynigion sy'n cyrraedd y rhestr fer yn rhan o arddangosfa yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd y ddelwedd fuddugol hefyd yn ymddangos ar glawr adroddiad y Pwyllgor.
Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, “Mae rhai ffyrdd prydferth yng Nghymru, ffyrdd prysur a ffyrdd eithaf ofnadwy hefyd”.
“Rydym yn chwilio am luniau sy'n crynhoi barn pobl am rwydwaith ffyrdd Cymru.
“Felly, p'un ai'n lluniau o dyllau yn y ffyrdd, yn olygfeydd o fylchau'r cymoedd neu'n lluniau sydyn o strydoedd trefol, rydym am eu trafod fel rhan o'n hymchwiliad wrth i ni greu delwedd fanwl o gyflwr priffyrdd a chilffyrdd Cymru.”
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno lluniau yw dydd Gwener 13 Gorffennaf.