Mae Comisiwn trawsbleidiol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar strategaeth ar gyfer y Pumed Cynulliad.
Mae ganddi dri nod craidd strategol, sef:
- Darparu cefnogaeth seneddol o’r radd flaenaf
- Ymgysylltu â holl bobl Cymru a hyrwyddo’r Cynulliad
- Defnyddio adnoddau’n ddoeth
"At ei gilydd, mae’r nodau hyn yn pennu’r fframwaith ar gyfer cyfres o flaenoriaethau uchelgeisiol, gan fanteisio ar y buddsoddi a’r momentwm a gafwyd yn y Pedwerydd Cynulliad", meddai Elin Jones AC, y Llywydd.
"Maent yn adlewyrchu sefyllfa gyfansoddiadol sy’n newid, gan gynnwys canlyniad refferendwm yr UE a’r angen am ymgysylltu cryfach sy’n deillio o’r canlyniad hwnnw.
"Mae’r nodau’n canolbwyntio ar feithrin gallu pobl i sicrhau llwyddiant y sefydliad yn y tymor hir.
"Ar gyfer pob nod strategol, bwriad y Comisiwn yw pennu a chynnal safonau uchel fel arweinydd ym maes gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a gwella ein henw da yn rhyngwladol fel sefydliad seneddol o’r radd flaenaf sy’n effeithiol ac yn agored."
Mae’r Comisiynwyr wedi cytuno ar y prif feysydd y dylai’r Comisiwn eu blaenoriaethu. Yn benodol, mae’r rhain yn cynnwys:
- ymateb i oblygiadau canlyniad refferendwm yr UE a newidiadau cyfansoddiadol, gan gynnwys datblygu proffesiynol ar gyfer yr Aelodau yn sgil newidiadau o’r fath; ac
- ymateb i’r modd y mae profiadau digidol sy’n newid yn gyflym yn dylanwadu ar ddisgwyliadau o ran ymgysylltu a’r gwasanaethau y mae’r Cynulliad yn eu darparu, a hynny drwy wella gwasanaethau fel Senedd TV, cefnogi gwaith ymgysylltu’r Cynulliad â’r cyfryngau, datblygu ein cynnwys teledu ein hun ar waith y Cynulliad, creu archif hygyrch i’r cyhoedd o gofnodion y Cynulliad, a chryfhau ein hymgysylltiad â phobl ifanc.
Grŵp trawsbleidiol yw Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol. Y Llywydd sy’n ei gadeirio a chynrychiolwyr o bob grŵp plaid yn y Cynulliad yw’r aelodau.
Aelodau cyfredol y Comisiwn yw:
- Elin Jones AC - y Llywydd (Cadeirydd)
- Suzy Davies AC - â chyfrifoldeb dros y gyllideb a llywodraethu, gan gynnwys bod yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
- Joyce Watson AC - â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, a’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad.
- Dai Lloyd AC - â chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i Aelodau.
- Caroline Jones AC - â chyfrifoldeb dros ddiogelwch ac adnoddau’r Cynulliad.