'Hollol anhygoel' bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dyfarnu contractau gwerth £39 miliwn heb achos busnes priodol, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/06/2017

​Dyfarnwyd contractau gwerth dros £39 miliwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru heb achos busnes priodol ac, o bosibl, gan fynd yn groes i reolau cymorth gwladwriaethol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnig y contractau i'w tendro mewn proses gystadleuol, na wnaeth archwilio'r farchnad yn effeithiol ac na wnaeth roi gwybod i Lywodraeth Cymru yn iawn am ei benderfyniad 'dadleuol' - rhywbeth y mae rhwymedigaeth ar y sefydliad i'w wneud yn unol â'i weithdrefnau llywodraethu.

Dyfarnwyd y contractau yn 2014, ond cynhaliwyd gwaith craffu arnynt mewn adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni.

Wrth ymateb, gwrthododd Cyfoeth Naturiol Cymru yr honiad bod y contractau wedi mynd yn groes i reolau cymorth gwladwriaethol, gan fynnu i'r cyngor cyfreithiol a gafodd y sefydliad nodi ei fod yn gyfreithlon. Nododd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yr angen oedd arno i ddyfarnu'r contractau ar fyrder er mwyn rheoli haint rhag lledaenu ac effeithio ar goed llarwydd, a gwnaed y penderfyniad hwnnw gan swyddog profiadol â gwybodaeth fanwl am y maes.

Ond canfu'r Pwyllgor i Gyfoeth Naturiol Cymru gael cyngor cyfreithiol ynghylch rheolau cymorth gwladwriaethol ar ôl i'r mater gael ei godi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru - dair blynedd ar ôl dyfarnu'r contractau.

Un o'r gofynion yr oedd angen ymrwymo iddynt yn y contractau oedd bod gweithredwr y felin lifio yn agor llinell lifio newydd yng Nghymru, gan greu swyddi newydd. Ond mewn cyfarfod â'r Pwyllgor, nid oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu dweud a gafodd y gofyniad hwnnw ei ddiwallu, er mai'r disgwyliad oedd i'r llinell lifio newydd gael ei sefydlu erbyn y dyddiad cau a oedd ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach.

Yn dilyn y cyfarfod, daeth i'r amlwg nad oedd gweithredwr y felin lifio wedi agor llinell lifio newydd.

Mae'r Pwyllgor wedi argymell bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal gwerthusiad llawn o'r trefniadau llywodraethu ar gyfer y broses gontractio, ac yn adolygu ei drefniadau dirprwyo ynghyd â dod yn fwy ymwybodol o gyfraith cymorth gwladwriaethol, cyfraith gyhoeddus a'r broses o ddyfarnu contractau.

“Nid oeddem wedi ein hargyhoeddi gan y dystiolaeth a gawsom gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthod canfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol” meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

“Mae pryderon difrifol bod prosesau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau a chontractio yn anfoddhaol. Golyga hyn y deuwn i'r casgliad y gwnaethpwyd cam wrth ddod i'r farn y dylid dyfarnu contract sylweddol i un gweithredwr melin lifio heb gynnal ymarfer aildendro llawn ac agored neu archwilio'r farchnad yn drylwyr.

"Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal gwerthusiad llawn o'i drefniadau llywodraethu o ran y broses gontractio, a dylai adolygu ei drefniadau diprwyo ynghyd â dod yn fwy ymwybodol o gyfraith cymorth gwladwriaethol, cyfraith gyhoeddus a'r broses o ddyfarnu contractau.”

Darllen yr adroddiad llawn:

Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 
(PDF, 774 KB)