Mae angen arweinyddiaeth well a llawer mwy o arian i annog y cyhoedd i feicio a cherdded mwy

Cyhoeddwyd 24/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae diffyg arweinyddiaeth, cyllid ac uchelgais wedi cyfrannu at ganlyniadau gwael Deddf Teithio Llesol flaenllaw Llywodraeth Cymru yn ôl grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad.

DywedoddPwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol mai diffyg arweinyddiaeth strategol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd a wnaed ym maes teithio llesol hyd yn hyn yn ei farn ef.  Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei harweinyddiaeth ar y mater ac i egluro ei disgwyliadau gan awdurdodau lleol.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet am £60m ychwanegol ar gyfer teithio llesol dros dair blynedd.  Fodd bynnag, er bod hyn yn dod â'r gwariant yn y maes hwn i oddeutu £10 y pen y flwyddyn, mae hyn yn brin o argymhelliad y Pwyllgor, sef £17 - £20 y pen bob blwyddyn o arian cyfalaf a refeniw. Mae'r Pwyllgor yn dweud y dylai hyn hefyd fod yn llinell gyllideb flynyddol gylchol i roi sicrwydd i awdurdodau lleol o ran ymrwymiad tymor hwy Llywodraeth Cymru i deithio llesol.

Mae'r argymhellion hyn yn codi o waith craffu ôl-ddeddfwriaethol y Pwyllgor ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) bum mlynedd ers ei chyflwyno.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio dulliau cyfredol megis canllawiau cynllunio, Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a'r system Metro sydd ar ddod i sicrhau bod gofynion teithio llesol yn cael eu cynnwys mewn prosiectau seilwaith newydd.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:

"Nod y Ddeddf Teithio Llesol oedd trawsnewid y ffordd y mae pobl yng Nghymru yn teithio dros bellterau byr trwy hwyluso ffyrdd gwell o feicio a cherdded yn hytrach na defnyddio'r car. Fodd bynnag, gan fod nifer y bobl sy'n beicio neu'n cerdded yng Nghymru yn sefydlog neu'n gostwng, mae'n amlwg mai cynnydd cyfyngedig sydd wedi'i wneud.

"Nid oedd uchelgais y Ddeddf byth yn mynd i gael ei gyflawni mewn ychydig o flynyddoedd, ond yn sicr ni ellir ei wireddu trwy gamau gweithredu ac ewyllys da ychydig o swyddogion beicio ymroddedig a dyna pam mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu gwersi ar y cynnydd hyd yn hyn, rhoi arweinyddiaeth well a llawer mwy o arian i sicrhau bod uchelgeisiau gwreiddiol y Ddeddf yn cael eu gwireddu.

"Drwy roi'r elfennau sylfaenol hyn ar waith, gallwn gael mwy o bobl i deithio'n weithredol a all roi buddion trawsbynciol i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â'r unigolyn a'r gymdeithas ehangach."

Gwnaeth y Pwyllgor 24 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chyrff proffesiynol datblygwyr a pheirianwyr sifil, awdurdodau lleol a staff Llywodraeth Cymru ei hun i fynd i'r afael â'r rhwystrau diwylliannol i weithredu canllawiau teithio llesol, yn enwedig drwy hyfforddiant a rheoli'r broses o newid diwylliant;

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r prosiectau seilwaith y mae'n eu cyflawni i ddangos y dulliau teithio llesol arloesol y mae'n disgwyl eu gweld gan Awdurdodau lleol;

  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei chanllawiau statudol i gynnwys cyd-gynhyrchu fel safon ofynnol ar gyfer cyflawni Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gan sicrhau bod rhanddeiliaid yn rhan o'r ateb i'r broblem yn ogystal â'r broses o nodi'r broblem;

  • Mae gordewdra yn broblem gynyddol yn y sector iechyd. Mae teithio llesol a ffyrdd o fyw llesol yn ffordd gymharol rad o fynd i'r afael â'r broblem hon. Dylai Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru flaenoriaethu hyrwyddo teithio llesol a newid ymddygiad fel un o'i nodau allweddol ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn/y tair blynedd nesaf. 

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (PDF, 3 MB)