Wedi paratoi’r llwyfan, ond dim digon yn digwydd o ran Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 14/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/02/2019

Trodd cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd i roi hwb i'r diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru i fod yn gatalog o wallau wedi i Lywodraeth Cymru lofnodi contract â diffyg manylion ynddo, anwybyddu achosion posibl o wrthdaro buddiannau, a phrynu adeilad gyda tho a oedd yn gollwng oherwydd ni wnaed arolwg strwythurol ohono.

Bu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood Studios a'r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau gwerth £30 miliwn yr oedd y stiwdio yn gyfrifol am ei rheoli.

Wrth ei chyhoeddi, honnodd Llywodraeth Cymru y gallai greu elw o hyd at £90 miliwn ar gyfer economi Cymru yn yr hirdymor. Canfu'r Pwyllgor na lwyddodd y canlyniadau a'r rhagolygon cynnar i gyrraedd y targedau hynny, er ei fod yn derbyn y gallai fod rhywfaint o amser cyn i'r buddion gael eu gwireddu'n llawn.

Clywodd Aelodau'r Pwyllgor fod rhanddeiliaid yn pryderu am rôl Pinewood wrth reoli'r gronfa. Roedd gwrthdaro buddiannau posibl ac roedd Pinewood, yn y bôn, yn gyfrifol am ddyfarnu arian i'w gystadleuwyr.

 

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru:

"Roedd yn ymddangos bod diffyg tryloywder ynglŷn â graddau rôl ehangach Grŵp Pinewood mewn cynyrchiadau. Gwaethygodd y diffyg tryloywder ymddangosiadol yma'r pryderon ynglŷn â'r fantais ariannol y gallai Pinewood ei chael dros gwmnïau eraill drwy ei fynediad ecsgliwsif i'r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau."

 

Canfu'r Pwyllgor gamgymeriad yn y trefniant nawdd rhwng Llywodraeth Cymru a Pinewood. Roedd y cytundeb yn nodi y byddai'r Llywodraeth yn talu £483,000 y flwyddyn i Pinewood i farchnata a hyrwyddo'r stiwdio yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd y Treth ar Werth wedi'i hepgor o'r cytundeb ac roedd hon yn costio £87,600 yn fwy bob blwyddyn, a oedd yn golygu y byddai Pinewood yn cael £2.63 miliwn dros bum mlynedd.

Roedd prynu adeilad ar gyfer stiwdios newydd Pinewood hefyd wedi codi pryderon. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £6 miliwn o bunnoedd yn yr hen Ganolfan Ynni yng Ngwynllŵg ger Caerdydd, a hynny heb ei bod yn comisiynu ei harolwg strwythurol ei hun. Pe bai wedi gwneud hynny, byddai wedi sylweddoli bod y safle yn cynnwys tyrbin gwynt a ffermdy rhestredig gradd 2, y byddai angen ei adfer, o dan delerau'r pryniant. Hefyd, bod to'r prif adeilad yn gollwng a bydd rhaid i Lywodraeth Cymru talu i'w atgyweirio.

Yn 2017 terfynodd Pinewood ei brydles o stiwdios Gwynllŵg a pheidiodd â chymryd rhan yn y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru a Pinewood i 'Gytundeb Gwasanaethau Rheoli' newydd ar 1 Tachwedd 2017 ar gyfer gweithredu cyfleusterau stiwdio Gwynllŵg.

 

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "Mae Pinewood yn stiwdio ffilm Brydeinig fyd-enwog sydd wedi'i hen sefydlu ac sy'n gysylltiedig â rhai o'r masnachfreintiau ffilm mwyaf enwog mewn hanes.

"Arweiniodd y cyhoeddiad ynghylch cyrhaeddiad Pinewood yng Nghaerdydd yn 2014 at gyffro a disgwyliad y gallai'r brand ychwanegu £90 miliwn amcangyfrifedig at economi Cymru gan roi hwb i ddiwydiant ffilm Cymru ar lefel ryngwladol.

"Cawsom ein synnu bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gontract nad oedd yn eglur o ran trefniadau gweithredu, a chytundeb cydweithredol nad oedd yn egluro rolau a chyfrifoldebau pob partner yn eglur.

"Cawsom ein synnu hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi dewis prynu safle a oedd yn cynnwys tri ased gwahanol ac anarferol iawn, yn costio £6 miliwn ac wedi methu â chomisiynu arolwg strwythurol llawn ymlaen llaw.

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dysgu o'i phrofiadau yn y gorffennol ac wrth ymateb i'r adroddiad hwn rhaid iddi ddangos yn ddiamod, unwaith ac am byth, bod gwersi wedi'u dysgu o ran ei dull o ariannu busnesau preifat."

 

Mae'r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • bod yr holl drafodaethau yn y dyfodol rhwng Llywodraeth Cymru a busnes y sector preifat yn cynnwys asesiad trwyadl o gyfrifoldebau pob ochr ac y nodir y rhain yn benodol ym mhob contract;

  • y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio'n drylwyr ei threfniadau ar gyfer nodi ac asesu achosion posibl o wrthdaro buddiannau a bod y rhain, ynghyd â chynigion lliniaru cadarn, yn cael eu gwneud yn gwbl eglur mewn cyngor a ddarperir i Weinidogion cyn ymrwymo i gytundebau â busnes yn y sector preifat; ac,

  • bod Llywodraeth Cymru yn cael arolygon, nid dim ond prisiadau, ar bob caffaeliad eiddo sy'n uwch na £1 miliwn.

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood (PDF, 581 KB)