Tapestri Peredur

Cyhoeddwyd 07/02/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/02/2024   |   Amser darllen munudau

Martin Weatherhead, Snail Trail Handweavers, Sir Benfro

Noddir gan Paul Davies AS

Dyddiadau: 15 Mawrth - 30 Ebrill 2024

Lleoliad: Neuadd y Senedd

Cafodd Martin ei ysbrydoli i wehyddu’r tapestri lliwgar hwn gan un rhan fach o stori Peredur. 

Daw stori Peredur o lawysgrif o’r Oesoedd Canol hwyr, sef Llyfr Gwyn Rhydderch (c.1325). Mae’r llawysgrif hwn, ynghyd â Llyfr Coch Hergest (c.1400), yn ffurfio un ar ddeg o straeon y Mabinogion.

Mae chwedl Peredur yn sôn am lanc ifanc diniwed sy’n dyheu am fod yn farchog. Ar ôl cael ei fychanu yn Llys y Brenin Arthur, mae Peredur yn mynd ati i brofi ei ddewrder.

Ar ei daith, mae'n dod o hyd i ddyffryn hud. Ar lan yr afon mae coeden dal yn sefyll. Mae un hanner ar dân ond nid yw’r fflamau’n llosgi’r hanner arall, sy’n llawn dail.  Mae praidd o ddefaid gwynion yn pori ar y naill lan, a phraidd o ddefaid duon yn pori ar y llall.  Pan fydd dafad wen yn brefu, bydd dafad ddu yn croesi'r afon ac yn troi'n wyn, a phan fydd dafad ddu yn brefu, bydd dafad wen yn croesi'r afon ac yn troi'n ddu.

Yn y delweddau hyn, mae Martin yn gweld awgrym o achubiaeth - nid yw cyflwr yn barhaol, gall newid cyfeiriad. Treuliodd bedair blynedd yn dylunio, yn llifo edafedd ac yn gwehyddu’r tapestri anferth hwn, sy’n mesur 2m x 4m. Cymerodd ofal i sicrhau bod y llythreniad dwyieithog ar ei dapestri ef yn cyd-fynd â chaligraffeg Llyfr Gwyn Rhydderch gan fabwysiadu arddull millfleur yr Oesoedd Canol, a gwehyddu fflora a ffawna ar flaendir y tapestri.