Nod y pensaer oedd creu adeilad sy’n ymddangos fel pe bai’n codi o’r Bae ac yn dal sylw’r rheini sy’n cerdded heibio, gyda tho crog y gall pobl ymgynnull oddi tano.
Y Bae ei hun oedd yr ysbrydoliaeth wreiddiol wrth gynllunio’r Senedd. Mae’r Aelodau wrth eu gwaith ar y llawr isaf ac mae’r lefel hwn yn adlewyrchu’r tirlun o’u hamgylch. Mae’r to dros y mannau cyhoeddus, ar y llaw arall, yn darlunio’r awyr ac mae’r hyn sydd rhwng y llawr a’r to mor dryloyw â phosib.
Yr hyn oedd wrth wraidd y cynllun oedd ymgais i greu adeilad fyddai’n symbol o ddemocratiaeth agored. Dylai’r adeilad hefyd fodloni egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Fel rhan o’r briff gwreiddiol, nod y penseiri oedd sicrhau y byddai’r Senedd:
- Yn creu ymdeimlad o lywodraeth agored ac yn croesawu’r cyhoedd;
- Yn creu gweithle o safon mewn adeilad fyddai’n addas heb fod yn wastraffus;
- Yn hygyrch i bobl ag anableddau;
- Yn ymateb yn effeithiol i newid;
- Yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg gwybodaeth;
- Yn rhoi gwerth am arian, nid am y gwariant cyfalaf cyntaf yn unig, ond drwy gydol oes yr adeilad;
- Yn ‘gymydog da’ gan ddod â budd i’r gymuned leol a pharchu a gwella’r amgylchedd lleol yn unol â gofynion Deddf Diogelu’r Amgylchedd.
Cytunwyd ar yr egwyddorion canlynol wrth gynllunio’r adeilad:
- Gwneud defnydd effeithiol o’r safle godidog ar lan y dwr;
- Sicrhau mai’r safle ei hun fyddai prif ysbrydoliaeth y penseiri;
- Sicrhau bod prysurdeb pensaernïol ardal Bae Caerdydd yn gwrthgyferbynnu ag ehangder y golygfeydd dros y dwr. Mae’r elfen hon yn gyffredin i ddatblygiadau dinesig pwysig ledled y byd;
- Sicrhau bod y Senedd yn edrych tuag allan. Mae hyn yn symbol o’i swyddogaeth fel adeilad cenedlaethol a fydd yn atgyfnerthu hunaniaeth Cymru.