08/02/2017 - Addysg

Cyhoeddwyd 01/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/02/2017

​Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Chwefror 2017

i'w hateb ar 8 Chwefror 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r canllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i ysgolion ar sut i wella presenoldeb? OAQ(5)0088(EDU)
 
2. Jeremy Miles (Castell-nedd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau amgylchedd dysgu corfforol hygyrch a chynhwysol i blant ag awtistiaeth? OAQ(5)0089(EDU)
 
3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen ysgolion yr 21ain ganrif yn Nwyrain Abertawe? OAQ(5)0081(EDU)
 
4. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd mwyaf effeithiol o amser athrawon o ran cynllunio, paratoi ac asesu mewn ysgolion? OAQ(5)0092(EDU)
 
5. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gael gwared ar y ffiniau rhwng addysg bellach ac addysg uwch? OAQ(5)0091(EDU)
 
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Faint o blant pump oed sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ar hyn o bryd? OAQ(5)0080(EDU)
 
7. Vikki Howells (Cwm Cynon): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion i astudio pynciau STEM mewn ysgolion? OAQ(5)0084(EDU)
 
8. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd gwaith cydweithredol llwyddiannus a ddechreuwyd gan Her Ysgolion Cymru yn parhau? OAQ(5)0082(EDU)
 
9. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg? OAQ(5)0083(EDU)W
 
10.  Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch hyrwyddo'r strategaeth Siarad â fi 2 mewn ysgolion? OAQ(5)0090(EDU)
 
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi eu cynnal â phrifysgolion ynglŷn â chreu corff ymchwil ac arloesedd ar gyfer Cymru?  OAQ(5)0086(EDU)Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
 
12. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau sy'n cael eu cymryd i warchod athrawon rhag trais cynyddol gan ddisgyblion? OAQ(5)0085(EDU)
 
13. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio technolegau digidol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru? OAQ(5)0087(EDU)
 
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu addysg cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0079(EDU)