Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2017
i'w hateb ar 8 Mawrth 2017
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
1. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad o'i gymharu â thargedau ailgylchu gwastraff trefol ledled Cymru? OAQ(5)0115(ERA)
2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyflenwad digonol o bren o Gymru ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ(5)0106(ERA)
3. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at gefn gwlad Cymru? OAQ(5)0113(ERA)
4. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried diwygio ei chynllun datblygu gwledig yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0112(ERA)
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth bwyd ledled Cymru? OAQ(5)0104(ERA)
6. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am barciau cyhoeddus? OAQ(5)0108(ERA)
7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden yng Nghymru? OAQ(5)0103(ERA)
8. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer targedau ynni o brosiectau cynhyrchu ynni sy'n eiddo i'r gymuned yng Nghymru? OAQ(5)0114(ERA)
9. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(5)0109(ERA)
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau amgylcheddol? OAQ(5)0116(ERA)
11. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa astudiaethau a wnaed gan Lywodraeth Cymru o effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar y diwydiant amaethyddol? OAQ(5)0107(ERA)W
12. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amaethyddiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0105(ERA)
13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol Marchnadoedd Da Byw Cymru? OAQ(5)0111(ERA)W
14. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo i wella'r amgylchedd lleol yn Nhorfaen? OAQ(5)117(ERA)
15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i sut y gall Cymru barhau i fodloni ei chyfrifoldebau amgylcheddol byd-eang, a gwella ar hynny, ar ôl i'r DU adael yr UE? OAQ(5)0110(ERA)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae'n bwriadu cefnogi dioddefwyr trais domestig? OAQ(5)0117(CC)
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ynghylch ffioedd asiantau gosod? OAQ(5)0113(CC)
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu'r cynllun cynhwysiant ariannol? OAQ(5)0123(CC)
4. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith cyhoeddiadau polisi diweddar Llywodraeth y DU ar Gymru o ran diwygio lles? OAQ(5)0116(CC)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cefnogaeth ar gyfer cymunedau i leihau tlodi plant yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0108(CC)
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo diogelwch rhag tân yng Nghymru? OAQ(5)0111(CC)
7. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol prosiectau cymorth cymunedol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0120(CC)
8. Siân Gwenllian (Arfon): A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad am ariannu cynlluniau o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0109(CC)W
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau adfywio Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ(5)0110(CC)
10. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag aflonyddu ar fenywod yng Nghymru? OAQ(5)015(CC)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad cyfartal i gyrsiau rhianta cadarnhaol yng Nghymru? OAQ(5)0112(CC)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gyngor a chymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i weithredu'r addewid o 30 awr o ofal plant am ddim? OAQ(5)0119(CC)
13. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru? OAQ(5)0121(CC)
14. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod hŷn yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0118(CC)
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hawl i brynu? OAQ(5)0114(CC)