21/03/2017 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 16/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/08/2017

​Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2017

i'w hateb ar 21 Mawrth 2017

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
 
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau bach yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0511(FM)
 
2. Jeremy Miles (Castell-nedd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru? OAQ(5)0518(FM)
 
3. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu gwell swyddi yn nes at adref? OAQ(5)0521(FM)
 
4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sefydlu confensiwn cyfansoddiadol? OAQ(5)0517(FM)
 
5. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ(5)0515(FM)
 
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i gyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0513(FM)
 
7. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo arferion cyflogaeth da ar gyfer gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0523(FM)
 
8. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl i barhau'n aelodau gweithgar o'u cymunedau? OAQ(5)0520(FM)
 
9. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella economi cymoedd Gorllewin De Cymru? OAQ(5)0514(FM)
 
10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyfywedd y diwydiant amaeth yng Nghymru? OAQ(5)0519(FM)W
 
11. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gwrdd â'r Taoiseach i drafod y berthynas gyda Gweriniaeth Iwerddon yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd?  OAQ(5)0516(FM)W
 
12. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod rhagor o fenywod yn cael swyddi'n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg? OAQ(5)0522(FM)
 
13. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am daliadau uniongyrchol i ffermwyr? OAQ(5)0524(FM)W
 
14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella seilwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0512(FM)
 
15. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog egluro ei sylwadau blaenorol ei fod yn gweld yr Alban fel model cyfansoddiadol i Gymru ei ddilyn? OAQ(5)0525(FM)