Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 15 Chwefror 2017
Cynnig a gyflwynwyd ar 11 Ionawr 2017
NNDM6204
Hannah Blythyn (Delyn)
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.
2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n cymunedau a'n gwlad.
3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau a chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn.
4. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau.
5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu.
6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy.
Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Chwefror 2017
Dadl Fer
NDM6238 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yng Nghymru, gweithio mewn partneriaeth.
NDM6239 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017.
NDM6240 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n hawdd cael gafael arnynt.
2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a
) archwilio'r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol angenrheidiol i s) archwilio'r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Chwefror 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6240
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ym mhwynt 3 b), dileu 'Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol' a rhoi yn ei le:
'y model bancio cymuned a ddatblygwyd yng Nghymru gan Responsible Finance'
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016
'Access to Banking Protocol One Year on Review - Professor Russel Griggs OBE' (Saesneg yn unig)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn croesawu cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Chwefror 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:
NDM6240
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda.
Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.
Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru."