24/05/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 18/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/05/2017

​Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 24 Mai 2017

Cynnig a gyflwynwyd ar 11 Mai 2017

NDM6311

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Hefin David (Caerffili)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.

 

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Mai 2017

Dadl Fer
 
NDM6315 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Amddiffyn Cymru i'r genhedlaeth nesaf.

Yr heriau presennol sy'n wynebu Cymru, ac na welwyd erioed o'r blaen, gan gynnwys y berthynas â gweddill y byd, anghydraddoldeb economaidd, a'r angen am weithredu cadarnhaol ar frys o ran gwella canlyniadau i'r genhedlaeth nesaf.

NDM6316 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn cydnabod yr angen am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer ffyniant yn y rhanbarth yn y dyfodol.

3. Yn nodi pwysigrwydd datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau gwledig yng nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i bawb.
 
NDM6317 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru i economi Cymru.

2. Yn nodi'r 5,383 o lofnodion ar ddeiseb i'r Cynulliad yn galw am ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru.

3. Yn nodi'r ymgyrch Achub Stryd Womanby sy'n galw am ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd.

4. Yn galw am i'r egwyddor o asiant dros newid gael ei wneud yn rhan o gyfraith cynllunio Cymru.

5. Yn galw am i 'ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth' ddod yn ddynodiad o dan gyfraith cynllunio Cymru.

'e-Ddeiseb Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru'

TYNNWYD YN ÔL

NDM6318 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru a'r ymrwymiad i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru.

2. Yn nodi papur ymchwil gan Simon Thomas ar gynigion i greu Ynni Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ynni Cymru, a fydd yn cael ei redeg fel cwmni di-ddifidend hyd braich o Lywodraeth Cymru, gan fuddsoddi elw mewn gwella gwasanaethau a phrisiau i gleientiaid.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i greu rhwydwaith o gridiau ynni lleol.

'Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru'

'Ynni Cymru – Pŵer i Gymru'

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Mai 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6317

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried manteision a pheryglon cyflwyno'r egwyddor o asiant dros newid yn rhan o gyfraith cynllunio Cymru.

2.  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried manteision a pheryglon cyflwyno "ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol" fel dynodiad cynllunio.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Mai 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:

NDM6316
 
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod blaenoriaeth frys trydaneiddio Llinell Reilffordd Arfordir y Gogledd, Prif Linell Reilffordd De Cymru a Llinellau Rheilffordd y Cymoedd a'u pwysigrwydd o ran ffyniant eu rhanbarthau perthnasol yn y dyfodol.

2.  Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf economaidd yn yr ardal honno.

3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i'r ardal.

4. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn nodi'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid ei meddwl o safbwynt cefnogi'r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan o Gymru.

4. Yn nodi'r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella'r system drafnidiaeth yng Nghymru yw dileu'r tollau. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar droed i ddatgarboneiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny'n unol â rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

 
NDM6317
 
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio Polisi Cynllunio Cymru er mwyn:

a) gwneud yr egwyddor o asiant dros newid yn fwy amlwg wrth reoli effeithiau datblygiadau newydd; a

b) ei gwneud yn bosibl dynodi ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth fel bod modd eu pennu mewn Cynlluniau Datblygu Lleol perthnasol.

Polisi Cynllunio Cymru

 
NDM6318
 
1.  Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl;

b) lleihau'r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil; ac

c) rheoli'r broses o drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn cyflawni'r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a'r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi'r trosglwyddiad cynnar i economi carbon isel.

3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a'r byd academaidd.

4. Yn nodi'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru.