Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 25 Hydref 2017
Cynnig a gyflwynwyd ar 22 Mehefin 2017
NDM6350 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n addasu'r broses gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn hollti hydrolig (ffracio).
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai amddiffyn tirwedd Cymru ac iechyd y cyhoedd.
Cynnig a gyflwynwyd ar 18 Hydref 2017
Dadl Fer
NDM6548 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Darparu gofal sylfaenol yn Llanidloes: dull arloesol o leddfu'r pwysau ar feddygon teulu.
NDM6547 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru, 'Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2017.
NDM6546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu na ddylid gweithredu treth dwristiaeth yng Nghymru.
NDM6549 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno'r credyd cynhwysol.
2. Yn credu y dylid datganoli rheolaeth weinyddol dros les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, dod â'r diwylliant o sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadauyn mynd i unigolion nid cartrefi.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 October 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion
NDM6350
1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai unrhyw gynnig ar gyfer Bil i newid y broses gynllunio mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer hollti hydrolig (ffracio) gynnwys darpariaeth ar gyfer refferenda lleol er mwyn rhoi rheolaeth i bobl leol dros ddatblygiadau sy'n cael effaith sylweddol ar eu cymuned.
NDM6549
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y pryder sy'n bodoli ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol. credyd cynhwysol.
2. Yn croesawu'r egwyddorion y tu ôl i'r credyd cynhwysol, sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith, ac yn nodi pan y rhagwelwyd credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuodd fod y rhan fwyaf o bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad yw'n ysgogi cyflogaeth.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Hydref 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:
NDM6549
Dileu pwynt 2 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
2. Yn nodi'r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy'n agored i niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol sy'n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.
3. Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau a thaliadau lles a'r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno'r credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r pryderon sylfaenol sy'n cael eu codi.
NDM6546
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Cymru 2014 yn cynnwys pwerau i Gymru gynnig trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;
b) bwriad Llywodraeth Cymru i brofi cyfundrefn Deddf Cymru ar gyfer cynnig a chyflwyno trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;
c) yn dilyn adborth gan y cyhoedd bod treth dwristiaeth bosib wedi'i nodi fel cynnig i'w ystyried; a
d) nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gyflwyno treth newydd yng Nghymru.
'Deddf Cymru 2014' (Saesneg yn unig)
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid gweithredu treth ar blastigau tafladwy yng Nghymru.