Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Mehefin 2017
NNDM6358
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai'r gwariant cyhoeddus blynyddol ar ofal cymdeithasol yw £1.7 biliwn ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd yn codi'n sylweddol wrth i'n poblogaeth barhau i heneiddio, gan roi pwysau anghynaliadwy ar gyllidebau llywodraeth leol a'r GIG.
2. Yn nodi ymhellach nad yw'r model comisiynu gofal presennol yn addas i'r diben, gan greu sector o weithwyr ar gyflogau gwael, na chânt eu gwerthfawrogi, ac ar yr un pryd sy'n methu â darparu gofal digonol i safon uchel am bris fforddiadwy.
3. Yn croesawu mesurau i godi statws y proffesiwn.
4. Yn croesawu ymhellach yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
5. Yn credu y byddai datblygu a threialu modelau amgen o ofal cymdeithasol i oedolion yn nodwedd allweddol o ddull economi sylfaenol yng Nghymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth gofal cymdeithasol uchelgeisiol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull lleol ac sy'n treialu nifer o fodelau amgen o ddarparu gofal.
NNDM6359
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r nifer digyffelyb o bobl ifanc a bleidleisiodd yn etholiad cyffredinol y DU ym mis Mehefin.
2. Yn nodi ymhellach y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cymru 2017, ddiwygio adrannau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddechrau ar newidiadau i'r system bleidleisio yng Nghymru o ran etholiadau cynghorau lleol a Chynulliad Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio newidiadau posibl i'r modd y cynhelir etholiadau cynghorau lleol a Chynulliad Cymru gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad mewn etholiadau, gan gynnwys:
a) cyflwyno pleidleisio gorfodol;
b) ehangu'r oedran pleidleisio i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed;
c) symud diwrnod yr etholiad i'r penwythnos; a
d) cyflwyno pleidleisio electronig.
'Deddf Llywodraeth Cymru 2006'
NNDM6360
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad cwmnïau cydweithredol o £1 biliwn i economi Cymru a'u rôl o ran creu cyflogaeth i filoedd o bobl.
2. Yn nodi bod manteision cwmnïau cydweithredol yn ymestyn y tu hwnt i fesurau economaidd craidd fel gwerth ychwanegol gros a chyflogaeth, gan gefnogi llesiant a chadernid cymunedol, a bod 689,112 o aelodau gweithgar mewn cwmnïau cydweithredol yng Nghymru.
3. Yn nodi ymhellach yr effaith leol, lle mae cwmnïau cydweithredol yn cyfrannu at economïau lleol, gan gloi cyfoeth yn y cymunedau hynny yn hytrach na'i ailddosbarthu y tu allan i Gymru.
4. Yn nodi ymhellach yr enghreifftiau o gwmnïau cydweithredol arloesol ledled Ewrop fel Mondragon yn rhanbarth y Basg yn Sbaen.
5. Yn croesawu ymyriadau Llywodraeth Cymru, fel Busnes Cymdeithasol Cymru, cynlluniau peilot Swyddi Gwell yn nes at Adref a chefnogaeth i Ganolfan Cydweithredol Cymru.
6. Yn credu bod argymhellion y Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol yn parhau i gynnig sail gadarn ar gyfer twf y sector yn y dyfodol.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu cadarn i gefnogi twf cwmnïau cydweithredol, a fyddai'n golygu cynnwys cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru.
'Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru'