Agenda - Y Cyfarfod Llawn
Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 25 Ionawr 2023
Amser y cyfarfod: 13.30
117(v4)
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (10 munud)
4. Cwestiynau Amserol (20 munud)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw prosesu cannoedd o warantau llys ar y tro, gan ganiatáu i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu heb wiriadau unigol, yn torri hawliau sifil trigolion Cymru?
Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'r honiadau o ddiwylliant rhywiaethol yr adroddwyd arnynt gan y BBC?
Gofyn i Weinidog yr Economi
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i gyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group am ei ymgynghoriad i gau ei safle yn Llangefni?
5. Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)
NNDM8192 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol (30 munud)
NDM8155 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod y Senedd:
- Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol
- Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
- ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;
- cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd fwy effeithlon o ran defnydd ynni;
- gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;
- sicrhau bod cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;
- annog arloesi yn i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.
7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon (60 munud)
NDM8189 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2023.
8. Dadl Plaid Cymru - Lleihau'r pwysau ar y GIG (60 munud)
NDM8188 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
- Yn nodi sylwadau Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag ef.
- Yn cefnogi ymdrechion arwrol gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.
- Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth i leihau'r pwysau sy'n wynebu'r GIG gyda mesurau sy'n cynnwys, ond nad ydynt yn gyfyngedig i:
- datrys anghydfodau cyflog cyfredol drwy ddyfarnu cynnig cyflogau gwell a sylweddol i weithwyr y GIG yng Nghymru;
- strategaeth gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn, ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth;
- rhoi mesurau iechyd ataliol wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth;
- gwella gwytnwch ar y pwynt rhyngweithio rhwng iechyd a gofal, gan dynnu'r pwysau oddi ar ofal cymdeithasol drwy fwy o gapasiti cam i lawr y GIG, yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor hwy; ac
- gwella gweithio mewn partneriaethau, cyd-gynhyrchu atebion a darpariaeth o fewn y GIG, gan gynnwys drwy roi'r pŵer i weithrediaeth newydd y GIG wneud newid go iawn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnig torri'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real yn 2023-2024.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol sy’n cynnwys:
- cyhoeddi buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr 2023;
- yr ymrwymiad i gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023;
- y gwaith sydd ar y gweill gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol;
- y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol;
- y rhaglen diwygio contractau sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol;
- y symud tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru;
- y modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd â’r bwriad penodol o greu capasiti cymunedol;
- y gwaith sydd ar y gweill i gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned;
- rhoi Gweithrediaeth y GIG ar waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru.
Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt 3(b), dileu 'dynnu elw o weithio asiantaeth' a rhoi yn ei le 'gapio cyfraddau cyflog asiantaeth'.
Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei diwygio i sicrhau cynnydd mewn termau real yn 2023-24.
9. Cyfnod Pleidleisio
10. Dadl Fer (30 munud)
NDM8168 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cefnogi pobl mewn argyfwng costau byw
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2023