Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol

Cyhoeddwyd 17/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2023   |   Amser darllen munudau

**Capasiti: 30 o blant. Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau. Addas ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5 a 6.

 

Addas ar gyfer: Disgyblion ysgolion cynradd (Blwyddyn: 5 a 6)

Maint y grŵp: uchafswm o 30 disgybl **(Pwysig)

Hyd: 2 awr

Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

 

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd dysgwyr yn archwilio gorffennol, presennol a dyfodol Cymru drwy ymweld â dau adeilad eiconig ym Mae Caerdydd, sef y Senedd a'r Pierhead. Fel dinasyddion gwybodus, bydd dysgwyr yn archwilio sut mae'r Senedd a gwneud penderfyniadau yng Nghymru ac yn cael eu grymuso i ystyried llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol Cymru.

 

Gweithgareddau

Dechreuwch eich diwrnod gyda thaith o amgylch y Senedd.  Bydd y disgyblion wedyn yn ymweld â’r Pierhead cyn cwblhau llyfryn gweithgareddau wrth archwilio'r adeilad eiconig hwn.

 

Archebu Lle

Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.

Archebwch nawr

 


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
  • Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
  • Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
  • Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau

 


 

Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm