18/10/2017 - Amgylchedd a Chymunedau

Cyhoeddwyd 11/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2017

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2017 i'w hateb ar 18 Hydref 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.
 
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

1. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant ffermio yng Nghymru? (OAQ51203)

2. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa rôl y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhagweld ar gyfer awdurdodau lleol yn y broses o gynhyrchu a dosbarthu ynni yng Nghymru? (OAQ51212)

3. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu manylion pellach am sut y gall rhanddeiliaid y tu hwnt i awdurdodau rheoli gyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredu ar flaenoriaethau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig? (OAQ51185)

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r manteision sy'n dod i Gymru o ganlyniad i fynediad i ddyfrffyrdd? (OAQ51188)

5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru? (OAQ51197)

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broblem o rywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru? (OAQ51178)

7. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gefnogaeth sydd ar gael i amddiffyn yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru rhag tlodi tanwydd y gaeaf hwn? (OAQ51209)

8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant amaethyddol yng ngorllewin Cymru? (OAQ51180)

9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i annog pobl ifanc i mewn i'r diwydiant ffermio? (OAQ51191)W

10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa fesurau cynllunio sydd ar waith i ddiogelu ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru? (OAQ51198)

11. Vikki Howells (Cwm Cynon):
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? (OAQ51193)

12. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet herio DEFRA i newid ei safiad ar y rheolau ynghylch profion ar ôl symud sy'n gysylltiedig â symud gwartheg o'r ardal TB isel yng Nghymru i'r ardal risg isel yn Lloegr? (OAQ51184)

13. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gamau pellach y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella ansawdd aer yng Nghymru? (OAQ51214)

14. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y gellir defnyddio'r system gynllunio i adeiladu cartrefi newydd? (OAQ51211)

15. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhwystrau ariannol sy'n atal ynni adnewyddadwy rhag cyrraedd ei botensial yng Nghymru? (OAQ51194)
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

1. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i weithwyr Cymunedau yn Gyntaf? (OAQ51205) 

2. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar dde-ddwyrain Cymru? (OAQ51201)

3. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd safon ansawdd tai Cymru? (OAQ51196)

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o adsefydlu troseddwyr yng Nghymru? (OAQ51179)

5. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru, yn dilyn ei drafodaethau gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog? (OAQ51192)

6. Julie Morgan (Gorllewin Abertawe): Beth fydd y cam nesaf yn y broses o ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol yng Nghymru? (OAQ51199)TYNNWYD YN ÔL

7. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i alluogi rhieni i ddatblygu technegau rhianta cadarnhaol? (OAQ51208)

8. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 yng Nghymru? (OAQ51195)

9. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi ymysg plant? (OAQ51207)W

10. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? (OAQ51186)

11. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o raddfa a chwmpas chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ51200)

12. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-aelodau'r lluoedd arfog? (OAQ51183)

13. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o fanteision rhaglen Dechrau'n Deg? (OAQ51182)

14. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hawliau plant i gael mynediad at eu dau riant? OAQ51215)

15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Rhentu Doeth Cymru? (OAQ51190)