Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Mawrth 2017
i'w hateb ar 22 Mawrth 2017
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o golli diwrnodau ysgol gan ferched na fedrant fforddio costau deunydd hylendid benywaidd? OAQ(5)0111(EDU)W
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o rôl goruchwylwyr llanw mewn ysgolion uwchradd? OAQ(5)0105(EDU)
3. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau na fydd y bwriad i gau Coleg Harlech yn arwain at golli argaeledd unrhyw gyrsiau ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion? OAQ(5)0098(EDU)
4. Lee Waters (Llanelli): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ag Estyn ynghylch y cylch nesaf o arolygiadau? OAQ(5)0093(EDU)
5. David Rees (Aberafan): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion cyfnod nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0110(EDU)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllun Cylch Ti a Fi y Mudiad Meithrin? OAQ(5)0097(EDU)
7. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y £21.1 miliwn a drosglwyddwyd o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru? OAQ(5)0109(EDU)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu'r fframwaith cymhwysedd digidol gan ysgolion cynradd yn y canolbarth? OAQ(5)0103(EDU)
9. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl mewn ysgolion a cholegau? OAQ(5)0100(EDU) TYNNWYD YN ÔL
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ(5)0099(EDU)
11. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth cymorth dysgu arbenigol mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0101(EDU)
12. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella addysg gychwynnol i athrawon? OAQ(5)0108(EDU)
13. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rannu addysgu rhwng ysgolion arloesi ac ysgolion nad ydynt yn ysgolion arloesi o ran cyflwyno'r cwricwlwm newydd? OAQ(5)0112(EDU)
14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth i blant byddar mewn ysgolion? OAQ(5)0106(EDU)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr byddar yng Nghymru? OAQ(5)0094(EDU)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru o ran hela â chŵn? OAQ(5)0031(CG)
2. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch cosbau troseddol am droseddau'n ymwneud ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol? OAQ(5)0029(CG)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynghylch dyfarniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan? OAQ(5)0032(CG)W
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda swyddogion eraill y gyfraith parthed hawliau dinasyddion Ewrop yng Nghymru? OAQ(5)0033(CG)W
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch annibyniaeth y system farnwrol yng Nghymru? OAQ(5)0030(CG)