Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 5 Ebrill 2017
Cynnig a gyflwynwyd ar 27 Ionawr 2017
NDM6227 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar leihau gwastraff.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai lleihau gwastraff drwy roi gofyniad ar gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd.
Cynnig a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2017
NDM6260
David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro diwydiannol' yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.
2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.
3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg.
4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu'r farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd.
Cynnig a gyflwynwyd ar 15 Mawrth 2017
NDM6268 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt.
2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gyflwyno Bil Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau bod adeiladu yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl;
b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu;
c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu;
d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant adeiladu.
'Datganiad Polisi Caffael Cymru'
Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Mawrth 2017
Y Ddadl Fer
NDM6285 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.
NDM6286 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o bwys ledled Cymru.
2. Yn nodi y dylai llywodraeth leol gryf ac effeithiol weld grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo pobl leol a'u cymunedau.
3 Yn cydnabod y rhan bwysig a gaiff ei chwarae gan fusnesau bach o ran llywio economi Cymru ac yn credu y dylai awdurdodau lleol gydweithio'n agos â'r gymuned fusnes i annog mwy o gydweithredu, arloesi ac entrepreneuriaeth.
NDM6287 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2017.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11 a 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 17 Mawrth 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6268
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig.
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru o ran datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru.
Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn economi Cymru.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru.
Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 31 Mawrth 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6286
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi pa mor bwysig yw rhannu arfer gorau ymysg awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cyflawni gwell canlyniadau o ran gwasanaethau cyhoeddus i etholwyr.
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol i etholiadau lleol er mwyn cryfhau atebolrwydd llywodraeth leol a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol.