11/10/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 04/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/10/2017

​​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 11 Hydref 2017

Cynnig a gyflwynwyd ar 4 Hydref 2017

Dadl Fer

NDM6522 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Gwarchod a datblygu canolfannau rhanbarthol o ragoriaeth feddygol.

NDM6524 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Hydref 2017.

NDM6525 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Awst 2017.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Hydref 2017

 

NDM6526 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu:

a) mai busnesau bach yw calon economaidd a chymdeithasol y stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn ardrethi busnes bresennol yn rhoii manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o dan anfantais sylweddol;

b) bod ardrethi busnes o'u hanfod yn annheg oherwydd mai ychydig, os unrhyw, berthynas sydd rhyngddynt â phroffidioldeb busnes a'u bod yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy ychwanegu costau sylweddol i'r broses o sefydlu busnesau newydd;

c) y byddai lleihau effaith ardrethi busnes yn helpu busnesau i oroesi'r heriau a achosir gan siopa ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb sylweddol i'r stryd fawr.

2. Yn penderfynu:

​ a) fel mesur dros dro, hyd nes y caiff ardrethi busnes eu disodli gan dreth sy'n gysylltiedig â'r gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000 i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant;

b) y dylai awdurdodau lleol Cymru annog masnach leol drwy gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud mewn meysydd parcio canol tref;

​c) y dylai datblygiadau siopa ar gyrion y dref ysgwyddo cyfran fwy ond rhesymol o'r baich ardrethi busnes ac y dylai cyfraddau o'r fath fod yn berthnasol i'w meysydd parcio, i helpu i adfywio canol trefi.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Hydref 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:

NDM6526

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r penderfyniad i ddatganoli ardrethi busnes i Lywodraeth Cymru yn llawn a'r potensial y mae hyn yn ei ddatgloi.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros y gyfradd uchaf o eiddo gwag ar y stryd fawr ym Mhrydain Fawr yn 2017, sef 14.5 y cant.
 
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diddymu ardrethi busnes ar gyfer yr holl fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; a
b) diwygio'r system ardrethi busnes ac ymchwilio i hollti lluosydd Cymru i gynyddu cystadleurwydd busnesau llai.

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn y cyllid sydd ar gael i gefnogi cynlluniau peilot parcio am ddim yng Nghymru.
 
5. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi ehangach Cymru.

2. Yn nodi pwysigrwydd allweddol polisïau traws-lywodraethol sy'n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr Cymru i ffynnu a thyfu.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi.

4. Yn cydnabod nad yw dros hanner holl fusnesau Cymru'n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sy'n fwy syml, yn fwy teg ac sy'n fwy penodol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yng Nghymru o fis Ebrill 2018.

6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000;

b) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd ledled Cymru;

c) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban a Lloegr; a

d) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.​