Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 12 Gorffennaf 2017
Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Mehefin 2017
NNDM6348
David Melding (Canol De Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol;
2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid;
3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru;
4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.
Cefnogir gan:
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Gorffennaf 2017
Dadl Fer
NDM6363 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):
Cofio Srebrenica
NDM6362 David Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ddeiseb P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru sydd wedi derbyn 5,383 o lofnodion.
'P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru'
NDM6365 Elin Jones (Ceredigion Ceredigion):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a
2. Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
'Deddf Llywodraeth Cymru 2006'
'Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad'
'Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad 2015-2017'