Cynigion a Gwelliannau i'w trafod ar 21 Mehefin 2017
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Mehefin 2017
Dadl Fer
NDM6331 Vikki Howells (Cwm Cynon)
Yr heriau aml-ochrog sy'n deillio o dlodi yng Nghymru
NDM6332 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol C,, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 – Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14.06.17; ac
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
NDM6333 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo'r protocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2017.
NDM6334 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2017.
NDM6335
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi papur gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational Wages, a'r casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr sy'n gweithio mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar gyfartaledd, at dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn rhanbarth benodol.
2. Yn credu:
a) y byddai gan system fewnfudo deg, wedi'i rheoli, sy'n rhoi pwyslais ar fewnfudo â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi'r DU;
b) bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag o'r tu fewn iddo;
c) nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy;
d) bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr:
a) nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o'r tu allan i'r UE;
b) nad yw'n dyblygu o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na'r EEA o ran hawl gweithwyr i symud yn rhydd; ac
c) sy'n ceisio cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd.
'The Impact of Immigration on Occupational Wages: evidence from Britain'
NDM6336 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru.
2. Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.
Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Mehefin 2017
NDM6341 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Vikki Howells (Llafur);
NDM6342 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mike Hedges (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau yn lle Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).
NDM6343 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Mike Hedges (Llafur).
NDM6344 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes lle David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).
NDM6345 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid.
NDM6346 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Mehefin 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6336
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Papur Polisi Llywodraeth y DU 'The United Kingdom's exit from, and new partnership with, the European Union' sy'n nodi ein bod eisoes wedi ymrwymo na chaiff unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig eu tynnu oddi arnynt ac y byddwn yn defnyddio'r cyfle i ddwyn y broses o wneud penderfyniadau yn ôl i'r DU i sicrhau bod mwy o benderfyniadau yn cael eu datganoli.
'The United Kingdom's exit from, and new partnership with, the European Union'
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Prif Weinidog y DU wedi bod yn glir am ei bwriad i gael cytundeb wedi'i deilwra sy'n gweithio i'r DU gyfan, sy'n sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd bosibl o ran tariff a rhwystr â'n cymdogion Ewropeaidd, drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Mehefin 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6335
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gan Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda mewnfudo yn chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr 21ain ganrif.
2. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion o'r radd flaenaf barhau i recriwtio'r disgleiriaf a'r goreuon o bob cwr o'r byd.
3. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn system fewnfudo'r wlad.
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economaidd Llundain wedi dod i'r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i awgrymu bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o'r UE wedi cael effaith negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar y boblogaeth a anwyd yn y DU.
2. Yn credu y dylai'r hawliau a'r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw ac yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd gael eu diogelu.
3. Yn credu bod angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a allai gyhoeddi fisâu penodol i Gymru er mwyn cau'r bylchau yn economi Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system trwyddedau gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru.
'London School of Economics' Centre for Economic Performance'
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi â'r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;
2. Yn cefnogi'r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:
a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a
b) cynyddu'r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.