Gweithgareddau am ddim i'r teulu cyfan y gwanwyn hwn yn y Senedd!
Gweithgareddau gwehyddu
Edrychwch i weld a allwch chi weld y gwahanol blanhigion ac anifeiliaid sy'n cuddio yn ein harddangosfa newydd, tapestri Peredur!
Neu rhowch gynnig ar wehyddu papur i greu eich tapestri lliwgar eich hun!
Creu eich baner ymgyrchu eich hun
Pa faterion sydd fwyaf pwysig i chi?
Defnyddiwch y stampiau llythrennau i ysgrifennu'ch neges.
Rhannwch lun o'ch baner ar y cyfryngau cymdeithasol, dangoswch hi yn y Senedd i bawb gael ei gweld, neu fel arall, ewch â hi gyda chi i ddechrau eich ymgyrch etholiadol eich hun!
Ymunwch â ni
Gweithgareddau baneri ymgyrchu ar gael tan 18 Mai.
Gweithgareddau planhigion ac anifeiliaid ar gael rhwng 15 Mawrth a 30 Ebrill.
Gwehyddu Papur ar gael ar 23 Mawrth, 25–30 Mawrth, 1–6 Ebrill, 8–13 Ebrill, 20 Ebrill, 27 Ebrill.
Does dim angen archebu ymlaen llaw, dim ond galw i mewn i'r adeilad!
Yr amseroedd agor - y Senedd a'r Pierhead:
Dydd Llun - Dydd Gwener: 09.00 - 16.30
Dydd Sadwrn a gwyliau banc: 10.30 - 16.30
Ceir mynediad hyd at 16.00
Noder: mae'r adeilad ar agor cyn ac ar ôl yr amseroedd agor arferol i ymwelwyr sy'n dod i wylio'r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor a busnes arall y Senedd.
Mynediad am ddim