28/06/2017 - Amgylchedd a Chymunedau

Cyhoeddwyd 21/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/06/2017

​Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Mehefin, 2017

i'w hateb ar 28 Mehefin 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

1. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ailgylchu gwastraff bwyd yng Nghymru? OAQ(5)0157(ERA)
 
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd y Nodyn Cyngor Technegol 20? OAQ(5)0158(ERA)
 
3. David Rees (Aberafan): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiadau a wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cynnig ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ(5)0161(ERA)
 
4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i werthuso'r gwaith o weinyddu'r cynllun Glastir yng Nghymru? OAQ(5)0152(ERA)
 
5. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwydiant cocos Gŵyr? OAQ(5)0154(ERA)
 
6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol? OAQ(5)0164(ERA)
 
7. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiogelwch diwydiant pysgota Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0160(ERA)
 
8. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi amcangyfrif o nifer y ffermydd sy'n dioddef TB buchol a all symud moch daear sydd wedi'u heintio a'u lladd heb greulondeb? OAQ(5)0159(ERA)
 
9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r disgwyliadau ar awdurdodau lleol o ganlyniad i'r canllawiau rheoli ansawdd aer lleol yng Nghymru? OAQ(5)0155(ERA)
 
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fesurau i fynd i'r afael â llygredd afonydd yng Nghymru? OAQ(5)0153(ERA)
 
11. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ansawdd dŵr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0163(ERA)W
 
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganllawiau a roddwyd i awdurdodau lleol mewn perthynas â materion cynllunio? OAQ(5)0162(ERA)
 
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu effeithlonrwydd ynni yng Nghymru? OAQ(5)0165(ERA)
 
14. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad i gefn gwlad yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0156(ERA)
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

1. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr yng Nghaerffili? OAQ(5)0164(CC)

2.  Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog? OAQ(5)0161(CC)

3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cydlyniant cymunedol yng Nghymru yn sgil digwyddiadau brawychiaeth diweddar? OAQ(5)0162(CC)

4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch ariannu grwpiau cymunedol, yn dilyn dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben? OAQ(5)0171(CC)W

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio asedau yn ein hardaloedd lleol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb? OAQ(5)0165(CC)

6. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y strategaeth Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid? OAQ(5)0160(CC)
 
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion y trefniadau pontio ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0156(CC)
 
8. Neil McEvoy (Canol De Cymru): Pa mor llwyddiannus yw'r £122 miliwn a fuddsoddwyd mewn cynlluniau Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf o ran cefnogi tadau, yn arbennig tadau sydd wedi gwahanu, i gyflawni eu rolau rhianta? OAQ(5)0167(CC)

9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch tân yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0166(CC)W

10.  Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ariannu cynlluniau o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0169(CC)W

11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â chymunedau ffydd yng Nghymru? OAQ(5)0168(CC)

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella diogelwch cymunedol? OAQ(5)0170(CC)
 
13. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau Llywodraeth Cymru sydd ar gael i helpu grwpiau cymunedol sydd am wella cyfleusterau a pharciau lleol yng Nghasnewydd? OAQ(5)0158(CC)

14. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ceisiadau a gaiff eu hystyried ar gyfer y gronfa 'Adeiladu ar gyfer y Dyfodol'? OAQ(5)0163(CC)
 
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu tai cyngor yng Nghymru? OAQ(5)0159(CC)