19/07/2017 - Cynigion a Gwelliannau â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 12/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/07/2017

​Cynigion a Gwelliannau i'w trafod ar 19 Gorffennaf 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Gorffennaf 2017

Dadl Fer
 
NDM6370 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
 
Gamblo cymhellol yng Nghymru.

NDM6366 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2017.

Nodyn: Cafodd ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r adroddiad ei dderbyn a'i gyhoeddi ar wefan y pwyllgor ar 5 Gorffennaf 2017.

NDM6369 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 5(1) a 5(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5, yn ymestyn penodiad Isobel Garner fel cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd arall.


'Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013'
 
NDM6371 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn credu:

a) bod Brexit yn galluogi pobl Cymru i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain drwy ddatganoli pwerau llywodraethol o dechnocrats anetholedig ym Mrwsel i Aelodau'r Cynulliad yng Nghaerdydd ac Aelodau Seneddol yn San Steffan;

b) y gall Brexit greu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth a'r economi wledig, drwy ddisodli'r CAP gan bolisi amaethyddol wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer anghenion penodol Cymru, gan gyfeirio'n arbennig at gadwraeth a diogelu'r amgylchedd yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol gan achosi costau cymesur i drethdalwyr a busnesau gwledig.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu polisïau eraill wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig o fewn agenda lleoliaeth sy'n grymuso pobl leol drwy:

a) gwneud penderfyniadau cynllunio mawr gydag effaith andwyol sylweddol ar ansawdd bywyd, megis ffermydd gwynt ymwthiol, yn amodol ar refferenda lleol;

b) gwneud newidiadau mawr i'r ddarpariaeth o ysgolion gwledig a gwasanaethau addysgol eraill yn amodol ar ymgynghori lleol dilys;

c) hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy; a

d) rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Gorffennaf 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6371

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig y cyfle i ddatganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. Yn cydnabod y bydd cyfle i leihau faint o fiwrocratiaeth sy'n wynebu ffermwyr Cymru ac yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno fframwaith ôl-Brexit sy'n cefnogi ffermwyr Cymru.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi cymunedau gwledig ledled Cymru, drwy ddatblygu mwy o bolisïau wedi'u teilwra'n arbennig ym meysydd iechyd, addysg a thai.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Gorffennaf 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6371      

1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn credu bod y dull gweithredu presennol o ran Brexit drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn rhwystro'r Cynulliad rhag arfer pwerau datganoledig ac yn peryglu'r rheolaeth sydd gan bobl yng Nghymru dros eu bywydau.