Deddfwrtiaeth - Y Trydydd Cynulliad

Cafodd pwerau deddfu newydd eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddechrau’r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007. Darparwyd ar gyfer y pwerau newydd hyn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n galluogi’r Cynulliad i basio deddfwriaeth, a elwir yn Fesurau’r Cynulliad, yn y meysydd y mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol.

Is-ddeddfwriaeth

Mae Is-ddeddfwriaeth yw’r cyfreithiau a gyflwynir o dan bwerau a ddirprwyir gan Ddeddf neu Fesur y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol.

Wrth basio Deddf, mae’r Cynulliad yn cymeradwyo ei egwyddorion, ei amcanion cyffredinol a manylion pwysig eraill. Fodd bynnag, bydd y Ddeddf fel arfer yn rhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru, neu gorff arall, wneud rheolau a rheoliadau manwl neu symbylu camau gweithredu mewn perthynas â sut y gweithredir y brif gyfraith.

Caiff is-ddeddfwriaeth hefyd ei galw yn ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu’n offerynnau statudol. Mae’n cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau, a gall gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol.

Mae gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n berthnasol i'r rhan fwyaf o Is-ddeddfwriaeth i’w gweld yn Rheolau Sefydlog 24 a 25. Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn craffu ar Is-ddeddfwriaeth o dan Reol Sefydlog 15.

Adroddiad Is-Deddfwriaeth - Y Trydydd Cynulliad - PDF

Adroddiad Is-Deddfwriaeth - Y Trydydd Cynulliad - Word