08/06/2016 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 03/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2016

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Mehefin 2016 i'w hateb ar 8 Mehefin 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.


(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
 
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
 
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio llywodraeth leol? OAQ(5)0020(FM)
 
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0023(FM)Bae Abertawe? OAQ(5)0023(FM)Bae Abertawe? OAQ(5)0023(FM)
 
3. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â phroblem newid yn yr hinsawdd? OAQ(5)0030(FM)
 
4. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae parhad aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd yn effeithio yn ei hanfod ar economi Islwyn? OAQ(5)0036(FM)
 
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cynnal ynglyn â llysoedd yng Nghymru sydd wedi eu clustnodi i gau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ(5)0027(FM)W
 
6. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithgareddau'r tasglu dur ers diddymiad y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(5)0032(FM)
 
7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi galwadau glowyr Cymru ac undeb NUM De Cymru am ymchwiliad i ddigwyddiadau Orgreave ym mis Mehefin 1984? OAQ(5)0026(FM)
 
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waddol Pencampwriaethau Pel-droed Ewropeaidd 2016 i Gymru? OAQ(5)0037(FM)W
 
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau traffig ym Mhort Talbot? OAQ(5)0029(FM)
 
10. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weinyddu Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0034(FM)
 
11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ(5)0024(FM)
 
12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0019(FM)
 
13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa feini prawf a ddefnyddia Llywodraeth Cymru i gyfrif gwerth effaith gwariant Croeso Cymru ar economi Cymru? OAQ(5)0028(FM)
 
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau casglu gwastraff llywodraeth leol? OAQ(5)0021(FM)
 
15. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa bryd y bydd y Prif Weinidog yn cwrdd nesaf ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru? OAQ(5)0033(FM)W