Mae Aelodau o’r Senedd wedi cymeradwyo enwau a chylchoedd gorchwyl 13 o bwyllgorau ar gyfer y Seithfed Senedd – un yn fwy nag yn y Senedd ddiwethaf.
Beth yw pwyllgorau?
Mae pwyllgorau yn grwpiau bach o Aelodau sy'n craffu ar faterion sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd, gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi a'r amgylchedd. Maent yn craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, yn craffu ar gyfreithiau newydd, ac yn dwyn Gweinidogion i gyfrif.
Y pwyllgorau sy’n cyflawni llawer o waith manwl y Senedd, gan ddod ag Aelodau o wahanol bleidiau ynghyd i edrych ar bynciau penodol. Maent yn casglu tystiolaeth, yn clywed safbwyntiau’r cyhoedd ac arbenigwyr, ac yn aml yn ymweld â chymunedau yr effeithir arnynt.
Mae’r Aelodau'n defnyddio'r gwaith hwn i wneud argymhellion ar gyfer newid, i gyhoeddi adroddiadau, ac i gyfrannu at ddadleuon ar y materion dan sylw yn y Siambr.
Pwyllgorau’r Senedd
Dyma’r 13 o bwyllgorau newydd:
- Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
(Cadeirydd: Sera Evans AS) - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(Cadeirydd: Jayne Bryant AS) - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig
(Cadeirydd: James Evans AS) - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol
(Cadeirydd: Zaynab Akbar AS) - Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd
(Cadeirydd: Elwyn Vaughan AS) - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon
(Cadeiryddion: Mair Rowlands AS a Lis McLean AS) - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
(Cadeirydd: Carmelo Colasanto AS) - Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol
(Cadeirydd: Carrie Harper AS) - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
(Cadeirydd: Andrew Griffin AS) - Y Pwyllgor Cyllid
(Cadeirydd: Sam Rowlands AS) - Y Pwyllgor Deddfwriaeth
(Cadeirydd: Sarah Cooper-Lesadd AS) - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
(Cadeirydd: Lindsay Whittle AS) - Y Pwyllgor Deisebau
(Cadeirydd: Jason O'Connell AS)
Bydd gan yr wyth pwyllgor polisi a deddfwriaeth naw Aelod yr un.
Bydd gan bedwar pwyllgor saith Aelod yr un, sef: y Pwyllgor Cyllid; y Pwyllgor Deddfwriaeth; y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus; a’r Pwyllgor Deisebau. Bydd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad bum Aelod.
Y broses o sefydlu’r pwyllgorau
Bydd Aelodau a Chadeiryddion y pwyllgorau yn cael eu rhannu rhwng y pleidiau, yn seiliedig ar faint eu grwpiau yn y Senedd.
Bydd cynrychiolaeth grwpiau’r pleidiau ym mhob un o'r pwyllgorau sydd â naw Aelod fel a ganlyn:
- Plaid Cymru: 4
- Reform: 3
- Llafur: 1
- Y Ceidwadwyr: 1
Bydd cynrychiolaeth grwpiau’r pleidiau yn y pwyllgorau sydd â saith Aelod fel a ganlyn:
- Plaid Cymru: 3
- Reform: 2
- Llafur: 1
- Y Ceidwadwyr: 1
Pan fo'n rhesymol bosibl, rhaid cynnig un lle ar bwyllgor i bob un o'r tri Aelod nad ydynt mewn grŵp gwleidyddol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd aelodau’r pwyllgorau yn cael eu cadarnhau’n ddiweddarach ym mis Mehefin, a chynhelir cyfarfodydd cyntaf y pwyllgorau yn fuan wedyn.
Bydd rhai pwyllgorau - gan gynnwys y Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog, Pwyllgor y Llywydd a Fforwm y Cadeiryddion - yn cael eu sefydlu ar ôl ethol Cadeiryddion.