Cwestiynau Brys

Cyhoeddwyd 03/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/12/2023   |   Amser darllen munud

Caiff Aelodau'r Senedd wneud cais ar unrhyw adeg i ofyn Cwestiwn Brys i Aelod o Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Senedd yn ystod Cyfarfod Llawn. Er hynny, dim ond os bydd y Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd os yw'r cwestiwn yn ymwneud â Chomisiwn y Senedd) yn fodlon bod y cwestiwn o bwys cenedlaethol brys.

Cyflwynwyd y Cwestiynau Brys ar eu ffurf newydd yn y Cynulliad ym mis Mai 2017, ynghyd â Chwestiynau Amserol​. Mae'r gweithdrefnau newydd hyn yn disodli'r drefn flaenorol ar gyfer gofyn Cwestiynau Brys.

Cwestiynau Brys 2023

Dyddiad Cyflwyno Cwestiwn Brys Penderfyniad
5 Rhagfyr 2023

I ofyn i'r Prif Weinidog

Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael â Heddlu De Cymru ynghylch ymosodiad difrifol yn Aberfan sydd wedi arwain at gau ysgolion?

Heb ei ganiatáu
1 Tachwedd 2023

I ofyn i'r Prif Weinidog

David Rees (Aberafan)

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata ynglŷn â'r adroddiadau yr wythnos hon am gau'r pen trwm yng ngwaith dur Port Talbot o fewn y flwyddyn ariannol hon?

Heb ei ganiatáu
24 Hydref 2023

I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am effaith ddinistriol y llifogydd diweddar yng Nghymru oherwydd Storm Babet?

Heb ei ganiatáu
10 Hydref 2023

I ofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad y Swyddfa Gartref i beidio â bwrw ymlaen â'r cynlluniau i roi llety i geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli?

Heb ei ganiatáu
2 Hydref 2023

I ofyn i Weinidog yr Economi

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Grŵp UK Windows and Doors ynghylch colledion swyddi yn Rhondda Cynon Taf?

Heb ei ganiatáu
20 Medi 2023

I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ei bod yn ystyried gohirio'r gwaharddiad ar werthu ceir petrol a diesel newydd tan 2035 yn effeithio ar ymrwymiadau sero net Cymru?

Wedi ei ganiatáu
19 Medi 2023

I ofyn i'r Prif Weinidog

David Rees (Aberafan)

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi buddsoddiad yn y diwydiant gwneud dur ym Mhort Talbot a fyddai'n arwain at golli miloedd o swyddi?

Heb ei ganiatáu
19 Medi 2023

I ofyn i Weinidog yr Economi

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y posibilrwydd o golli 3,000 o swyddi yn TATA Steel ym Mhort Talbot?

Heb ei ganiatáu
13 Medi 2023

I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad llafar yn dilyn cyhoeddiad heddiw ynghylch uwchgyfeirio a threfniadau ymyrraeth mewn byrddau iechyd ledled Cymru?

Heb ei ganiatáu
5 Gorffennaf 2023

I ofyn i Weinidog yr Economi

Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr) 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Zimmer Biomet y bydd yn rhoi'r gorau i weithgynhyrchu yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Heb ei ganiatáu
23 Mai 2023

I ofyn i Weinidog yr Economi

Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Heddlu De Cymru ynghylch terfysgoedd yng Nghaerdydd dros y 24 awr ddiwethaf?

Wedi ei ganiatáu
9 Mai 2023

I ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

 

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau'r Ddeddf Trefn Gyhoeddus ar gyfer yr hawl i brotestio yng Nghymru, yn dilyn arestio protestwyr heddychlon yn y Coroni?

Heb ei ganiatáu
27 Chwefror 2023

I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru yn dilyn ymddiswyddiad aelodau annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r penderfyniad i roi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig unwaith eto?

Heb ei ganiatáu
31 Ionawr 2023

I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad panel ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gafodd ei gyhoeddi heddiw?

 

Heb ei ganiatáu
16 Ionawr 2023

I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad panel ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gafodd ei gyhoeddi heddiw?

 

Heb ei ganiatáu

Cwestiynau Brys 2022

​Dyddiad Cyflwyno ​Cwestiwn Brys ​Penderfyniad
     
12 December 2022

I ofyn i'r Prif Weinidog

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnal y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd brys yn dilyn tywydd eithafol a galw digynsail ledled Cymru sydd wedi cyfyngu ar allu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i alwadau mewn modd diogel ac amserol?

Heb ei ganiatáu
6 Rhagfyr 2022

I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar nifer difrifol yr achosion o strep A a'r dwymyn goch sy'n cylchredeg yng Nghymru?

Heb ei ganiatáu
28 Mehefin 2022

I ofyn i'r Prif Weinidog

Alun Davies (Blaenau Gwent)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017?

Heb ei ganiatáu
28 Mawrth 2022

I ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddarparu ymateb brys i'r gyfres o fethiannau difrifol ar gyfer cannoedd o deithwyr rheilffordd a oedd yn teithio i dde Cymru ddoe?

 

Heb ei ganiatáu
9 Mawrth 2022

I ofyn i Weinidog yr Economi

Alun Davies (Blaenau Gwent)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiect y Cymoedd Technoleg ymhellach i gyfarfod craffu ar y gyllideb yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a ddywedodd y byddai'r prosiect yn cael ei gau?

Heb ei ganiatáu
25 Chwefror 2022

I ofyn i'r Prif Weinidog

Alun Davies (Blaenau Gwent)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad brys am y goblygiadau i Gymru o ymosodiad Rwsia ar Wcráin? 

Heb ei ganiatáu
25 Chwefror 2022 I ofyn i'r Prif Weinidog

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr argyfwng yn Wcráin?

Heb ei ganiatáu
24 Chwefror 2022

I ofyn i'r Prif Weinidog

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru?

Wedi ei ganiatáu

Cwestiynau Brys 2021

​Dyddiad Cyflwyno ​Cwestiwn Brys ​Penderfyniad
6 Rhagfyr 2021

I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Pa adnoddau a chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill i nodi pryderon posibl ynghylch diogelu plant, yn dilyn marwolaeth Arthur Labinjo-Hughes yn Solihull?

Heb ei ganiatáu
19 Hydref 2021

 I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd

Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Pa effaith y bydd adolygiad o ffyrdd Llywodraeth Cymru yn ei chael ar welliannau sydd eisoes ar y gweill ar yr A40: ffordd osgoi Llanddewi Felffre i Redstone Cross?

Heb ei ganiatáu
6 Gorffennaf 2021 I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru?

Heb ei ganiatáu
26 Mai 2021

I ofyn i'r Prif Weinidog

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith bosibl cytundeb masnach heb dariffau na chwotâu gydag Awstralia ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru?

Heb ei ganiatáu
26 Mai 2021

I ofyn i'r Prif Weinidog

Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gymuned Mayhill yn dilyn digwyddiadau nos Iau ac i atal y golygfeydd pryderus hyn rhag digwydd eto?

Heb ei ganiatáu