Pwyllgor o'r Senedd Gyfan

Gellir galw Pwyllgor o'r Senedd Gyfan at ddiben penodol.

Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf

Newyddion y Pwyllgor
Gwaith Cyfredol

Cylch Gwaith

Gellir galw Pwyllgor o'r Senedd Gyfan at ddiben penodol. Mae rhestr o bwyllgorau'r Senedd Gyfan yn ystod y Chweched Senedd, ynghyd â'u cylch gwaith wedi'i chynnwys isod:

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Cafodd y Pwyllgor ei alw ar 31 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii). Ei gylch gwaith yw ystyried gwelliannau i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 2.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Cafodd y Pwyllgor ei alw ar 17 Gorffennaf 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii). Ei gylch gwaith yw ystyried gwelliannau i Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yng Nghyfnod 2. Roedd trafodion Cyfnod 2 i'w cynnal ar 1 Hydref 2024.

Ar 16 Medi 2024, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu bwriad Llywodraeth Cymru I geisio tynnu’r Bil yn ôl. Tynnwyd y Bil yn ôl gyda chytundeb y Senedd ar 24 Medi 2024, yn unol â Rheol Sefydlog 26.79.

Aelodau'r Pwyllgor